Llais y Derwent
Ein prosiectau
Mae CDCD yn trefnu nifer o bethau. Dyma tipyn o'n hanes
Ysgol Undydd Cymraeg Derby blynyddol
Bob hydref mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn trefnu Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Mae'na dri dosbarth sef dechreuwyr, canolradd a phrofiadol. Mae nifer o Gymry Cymraeg lleol yn helpu efo'r diwrnod ac mae'r nifer o bobl sy'n dod rhwng 30 a 50 fel arfer . Gwelir ffurflen bwcio (ffeil pdf) i bwcio lle.
Bore Coffi Misol Nottingham
Mae Cymry Nottingham yn cynnal bore coffi misol ar y dydd Gwener cyntaf bob mis yn nhy aelodau gwahanol bob mis. Mae'r bore yn dechrau am 10.30 y bore. Mae'na groeso i Gymry Cymraeg a ddysgwyr profiadol. Am fanylion ffonio 0115 925 9613
Gweithdy Cymraeg Derby Misol
Mae'r Gweithdy yn cael ei gynnal ar fore Sadwrn unwaith y mis. Mae'na groeso i ddysgwyr o bob safon a hefyd i Gymry alltud. Mae'r rhaglen i'w gweld ar flog www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com
Dosbarthiadau Nos yn Belper
Mae'na ddosbarth nos yn Belper sy'n cael ei dysgu gan Glen Mulliner.
Teithiau Cerdded i ddysgwyr a Chymry Cymraeg
Pob tymor dyn ni'n trefni taith gerdded i ddysgywr a Chymry alltud. mae'r taith yn cael eu hysbysu ar ein safle Facebook, sef Menter Iaith Lloegr.